Y Gylchred Ddŵr
Mae dŵr yn un o roddion gorau natur. Mae’n syrthio o’r awyr ar ffurf glaw. Dim ond hyn a hyn o ddŵr sydd gennym ar y ddaear. Mae’r dŵr yn mynd rownd a rownd yn yr hyn rŷn ni’n ei alw’n ‘Gylchred Ddŵr’. Cliciwch yma i weld sut.
Anweddu
Mae gwres yr haul yn troi dŵr yn nwy anweledig o’r enw anwedd dŵr, sy’n codi i’r awyr.
Cyddwyso
Caiff cymylau eu ffurfio pan fydd anwedd dŵr yn oeri ac yn troi nôl yn ddafnau bach bach o ddŵr.
Glaw, eira ac ati
Pan fydd y dafnau dŵr yn tyfu’n fwy ac yn drymach, maen nhw’n syrthio nôl i’r ddaear fel glaw, cesair/cenllysg, eirlaw neu eira.
Trydarthu
Mae planhigion yn cymryd dŵr i mewn trwy eu gwreiddiau ac yn cael gwared â’r dŵr nad oes arnynt ei angen trwy eu dail.



