Diogelwch wrth y Dŵr

Cadw’n saff ger y dŵr.

Mae’n ddeniadol, Mae’n hwyl. Ond mae dŵr yn gallu bod yn beryglus hefyd. Cronfeydd dŵr. Llynnoedd. Afonydd. Camlesi. Y môr. Mae hyd yn oed nofwyr cryf yn gallu mynd i drafferthion os nad ydynt yn ofalus wrth nofio mewn dŵr agored. Cofiwch hefyd bod damweiniau’n gallu digwydd mewn llefydd eithaf diogel fel y pwll nofio neu’r bath.

Y gamp yw adnabod y peryglon, cymryd y camau angenrheidiol a chadw golwg ar bobl eraill. Dyma’r wybodaeth y bydd arnoch ei hangen am beryglon cudd nofio mewn cronfeydd dŵr ac mewn mannau eraill ger dŵr neu ynddo.

Felly, mae cronfeydd dŵr yn cŵl?

Mae’n ddiwrnod poeth o haf ac rydych am fynd i nofio. Ar yr olwg gyntaf, gall cronfa ddŵr edrych yn lle delfrydol i nofio. Ond mae ’na lu o beryglon cudd o dan yr wyneb…

…mae’r dŵr mewn cronfeydd yn rhy oer o lawer i nofio ynddo; mae hefyd yn rhy ddwfn o lawer i sefyll ar eich traed ynddo. Ar ben hynny, does dim gwarchodwyr i’ch helpu os ewch i drafferthion. A chofiwch bod cerhyntau cryf mewn cronfeydd a all eich tynnu o dan y dŵr.

Dysgwch am y peryglon. Mynnwch y wybodaeth.

Fel rhan o’n hymgyrch ddiogelwch ar gyfer cronfeydd dŵr, rydym wedi lansio cynllun aml-gyfrwng i esbonio peryglon nofio mewn cronfeydd. Mae’r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn cefnogi’r ymgyrch sy’n cynnwys nifer o ddefnyddiau i helpu pawb i ddeall y peryglon. Dilynwch y cysylltiadau isod i’w lawrlwytho er mwyn bod yn ddiogel.

Gofalwch eich bod yn i-awn

Gofalwch eich bod yn i-awn

Gallwch gopïo a gludo’r cysylltiad hwn i’ch meddalwedd Podledu er mwyn cysylltu â’r Podlediad.

www.livingandlearningwithwater.com/s.xml

Sut i drechu’r galwyr ffug

Sut i drechu’r galwyr ffug

Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn sicrhau bod pobl ifanc yn atgoffa’u neiniau a’u teidiau sut i ddelio â phobl sy’n galw’n annisgwyl rhag ofn mai twyllwyr ydyn nhw.

Chwarae’r fideo

Peryglon safleoedd adeiladu

Peryglon safleoedd adeiladu

Ymgyrch sy’n rhoi gwybod i bobl ifanc am beryglon cudd tresmasu ar y safleoedd adeiladu niferus sydd gennym ni a’n partneriaid.

Chwarae’r fideo

Diogelwch mewn cronfeydd dŵr

Diogelwch mewn cronfeydd dŵr

Fel rhan o’n hymgyrch ddiogelwch mewn cronfeydd dŵr, rydym wedi lansio ymgyrch amlgyfrwng yn esbonio peryglon nofio mewn cronfeydd dŵr.

Chwarae’r fideo