Arbed Dŵr | Awgrymiadau Arbed Dŵr
10 awgrym i’ch helpu i arbed dŵr
Dydi arbed dŵr ddim yn anodd nac yn drafferthus. Dyma 10 ffordd hawdd i beidio â gwastraffu dŵr yn eich cartref:
Gall tap sy’n diferu wastraffu hyd at 60 llond bath o ddŵr y flwyddyn. Felly, os gwelwch ddiferyn, trwsiwch e!
Gall peipiau achosi problemau. Lapiwch nhw rhag i chi gael byrsts. Mewn tywydd oer, gadewch y gwres ymlaen yn isel tra byddwch allan rhag i’r pibellau rewi.
Os byddwch yn gadael i’r tap redeg tra byddwch yn brwsho’ch dannedd, byddwch yn gwastraffu bron 9 litr y funud. Defnyddiwch wydraid o ddŵr yn lle hynny.
Rhowch ddŵr i’r ardd gyda’r nos. Bydd llai o ddŵr yn cael ei golli trwy anweddu. A defnyddiwch gan dŵr yn lle pibell ddŵr neu daenellwr.
Arhoswch nes bod gennych lwyth llawn cyn defnyddio’ch peiriant golchi. Mae llwyth llawn yn defnyddio llai o ddŵr na dau hanner llwyth.
Os byddwch yn prynu peiriant golchi dillad neu beiriant golchi llestri newydd, chwiliwch am un sydd â gradd A am arbed dŵr a thrydan.
Mae cawod yn defnyddio llawer llai o ddŵr na bath.
Casglwch ddŵr glaw i’w ddefnyddio yn yr ardd – mae casgen ddŵr yn handi.
Peidiwch â rhoi mwy o ddŵr nag sydd raid yn eich tegell. Mae hyn yn arbed dŵr a thrydan.
Rowch Fag Hipo yn eich toiled. Gallai’r ddyfais ddefnyddiol hon, sy’n mynd i mewn i’ch seston, arbed dŵr ac arian i chi!



