Arbed Dŵr | Ffeithiau Dŵr
A wyddech chi?
Mae pawb ohonom yn defnyddio 150 litr o ddŵr glân, wedi’i drin, bob dydd.
Mae dros draean o’r dŵr a ddefnyddiwn gartref yn mynd i lawr y toiled – bob tro y tynnwn y dŵr, rydym yn defnyddio rhwng 6 ac 13 litr o ddŵr, yn dibynnu ar faint seston y toiled.
Toiledau (rhai’r merched a’r bechgyn) sy’n defnyddio dwy ran o dair o’r dŵr a ddefnyddir mewn ysgolion.
Gall tap sy’n rhedeg ddefnyddio hyd at 9 litr o ddŵr y funud.
Gall tap sy’n diferu wastraffu hyd at 30 litr o ddŵr y diwrnod.
Mae peiriant golchi dillad yn defnyddio hyd at 80 litr o ddŵr y tro pa un bynnag a yw’n llawn ai peidio ac mae peiriant golchi llestri’n defnyddio rhwng 22 a 35 litr o ddŵr y tro.
Mae bath yn defnyddio hyd at 80 litr o ddŵr a chawod yn defnyddio 35 litr o ddŵr. Gall cawod bŵer (sydd â phwmp) ddefnyddio bron gymaint â bath.
Mae taenellwyr gerddi yn defnyddio llawer iawn o ddŵr, hyd at 650 litr yr awr. Byddai’n cymryd tua 4 diwrnod i un person ddefnyddio cymaint â hynny!



