Arbed Dŵr

Mae dŵr yn werthfawr

Mae dŵr yn hanfodol i fywyd. Mae’n gorchuddio 70% o wyneb y ddaear. Ond mae’n brin mewn sawl rhan o’r byd, yn cynnwys Ewrop, yn bennaf oherwydd newid yn yr hinsawdd a’r ffaith fod pobl yn defnyddio mwy o ddŵr nag y buont. Yn wir, ym Mhrydain rydym yn cael llai o law ac mae lefelau dŵr daear a chronfeydd dŵr yn is nag y buont ers degawdau.*

Dyna pam y mae’n rhaid i ni wneud y defnydd gorau o’r dŵr sydd gennym a pheidio â’i wastraffu. Rydyn ni yn Dŵr Cymru yn credu’n gryf mewn arbed dŵr a hybu effeithlonrwydd dŵr. Gyda’n gilydd, gallwn warchod yr adnodd gwerthfawr hwn gartref ac yn yr ysgol. Fe ddangoswn i chi sut i wneud hynny yn yr adran hon ac fe allwch lawrlwytho taflenni Archwiliad Dŵr ar gyfer yr ysgol a’r cartref.

*Fynhonnell: Waterwise.

Cliciwch i weld sampl o’r pecyn hwn

Pecyn Mae Dŵr yn Cŵl – Parchwch e:

Mae Dŵr Cymru wedi paratoi pecyn i helpu ysgolion i reoli faint o ddŵr y maen nhw’n ei ddefnyddio. Mae’r pecyn yn dangos pa mor bwysig yw dŵr i bob un ohonom ac mae’n helpu plant i ddeall gwerth dŵr a’r rhan hanfodol y mae’n ei chwarae yn ein bywyd bob dydd.

 

Mae Dŵr Cymru’n hybu defnyddio dŵr mewn ffyrdd cynaliadwy. Rydym wedi bod yn cydweithio â’r cynllun Eco-Sgolion i ddosbarthu pecyn ‘Mae Dŵr yn Cŵl – Parchwch e’ i bob Eco-Ysgol yng Nghymru sydd ar y lefel Arian.

 

Cliciwch yma i weld sampl o’r pecyn neu ewch i wefan: www.eco-sgolioncymru.org

Teulu’r Dŵr a Dŵr yn yr Ysgol

Bu Dŵr Cymru’n cydweithio â chwmnïau dŵr eraill i baratoi dwy wefan ryngweithiol ar thema arbed dŵr. Mae’n haws nag erioed i gyflwyno plant i fyd difyr dŵr gyda’r gwefannau cyffrous hyn:

Cliciwch i fynd i wefan Teulu’r Dŵr

www.teulurdwr.co.uk

Dyma gêm dda i’w chwarae ar-lein. Gall plant greu teulu rhithwir i’w helpu i arbed dŵr yn y tŷ a’r ardd. Mae’n ffordd hwyliog, difyr a chyffrous o ddatrys problemau ac annog plant i arbed dŵr.


Cliciwch i fynd i wefan The Water School

www.thewaterschool.co.uk

Dyma wefan a allai helpu ysgolion i arbed dŵr ac arian. Mae wedi helpu 15 o ysgolion yng ngorllewin Cymru eisoes. Cliciwch ar y wefan hon ac fe gewch lawrlwytho popeth y bydd arnoch ei angen i gychwyn a chynnal prosiect arbed dŵr. Mae yma daflenni gwybodaeth, animeiddio a meddalwedd darllen mesuryddion dŵr.

Cyfrifiannell Arbed Dŵr

Mae ymgyrch ‘Waterwise’ Dŵr Cymru Welsh Water yn annog pobl i feddwl yn ofalus faint o ddŵr y maen nhw’n ei ddefnyddio. Mae pawb yn y teulu’n defnyddio 150 litr o ddŵr y dydd ar gyfartaledd.

Cliciwch i gyfrif faint o ddŵr rydych yn ei ddefnyddio

Mae’n bwysig ceisio arbed dŵr trwy’r flwyddyn, hyd yn oed pan fydd yn bwrw’n drwm. Ein neges ni yw, defnyddiwch faint bynnag o ddŵr y mae arnoch ei angen ond peidiwch â'i wastraffu. Beth am ddefnyddio ein Cyfrifiannell Arbed Dŵr i gyfrif faint o ddŵr a ddefnyddiwch mewn wythnos?

Cyfrifiannell defnyddio dŵr Waterwise

Cyfrifiannell defnyddio dŵr Waterwise

Ffordd hwylus o gyfrif faint o ddŵr a ddefnyddiwch bob wythnos. Cliciwch yma

Holwch am Hipo!

Holwch am Hipo!

Os rhowch ddyfais arbed dŵr, fel bag hipo, yn seston y toiled, gallech ddefnyddio llai o ddŵr. Gallwch archebu bag hipo trwy ffonio 0800 052 0130 neu glicio yma i wneud cais ar-lein.

Mae dŵr yn cŵl, parchwch e!

Mae dŵr yn cŵl, parchwch e!

Rydym wedi paratoi pecyn arbed dŵr i helpu ysgolion i reoli faint o ddŵr y maen nhw’n ei ddefnyddio. Mae ysgolion sy’n cyrraedd y Lefel Arian yng nghynllun Eco-Sgolion Cadwch Gymru'n Daclus yn gallu cael un o’r pecynnau hyn.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy