Helpu plant i garu dŵr
Gall dysgu am ddŵr fod yn brofiad cyffrous a difyr i’ch disgyblion. Yn yr adran hon, fe gewch ddewis da o ddefnyddiau i’ch helpu i ddysgu Uned 11, Daearyddiaeth QCA ac i helpu plant i ddod i garu’r adnodd naturiol gwerthfawr hwn.
O wersi a gweithgareddau hwyliog i gêmau rhyngweithiol a thaflenni gwaith, mae’r holl ddefnydd wedi’i drefnu i ddilyn gofynion allweddol y Cwricwlwm Cenedlaethol. Cafodd ei greu i helpu disgyblion i ateb cwestiynau pwysig fel: lle allwn ni ddod o hyd i ddŵr yn ein hardal ni? Sut mae dŵr yn cyrraedd y tap? Pwy sy’n defnyddio dŵr? Pwy biau dŵr? Pwy sy’n talu am ddŵr?
Dŵr Cymru Welsh Water
Mwy am ein cwmni ni, newyddion, cyhoeddiadau, polisïau amgylcheddol a gwasanaethau ar-lein eraill.
Eco-Sgolion
Gwefan Cadwch Gymru’n Daclus.
Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed - Water4Life
Cewch chwarae gêmau dyfrllyd gyda Bertie Brightwater!
Thames Water
Gweithgareddau hwyliog a gwybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i ddysgu am ddŵr.
Severn Trent Water
Ewch ar antur ddyfrllyd gyda The Wet Water Wizard, Cewch ddysgu am hanes y diwydiant dŵr a llawer mwy.
Asiantaeth yr Amgylchedd
Clipiau animeiddio, ffeithiau a ffigurau am ddŵr – o lle mae’n dod, faint rydyn ni’n ei ddefnyddio a beth sydd ynddo.
United Utilities
Gweithgareddau am ddŵr ar y sgrîn.
Yorkshire Water
Gallwch lawrlwytho pecynnau gweithgareddau a dysgu am Ganolfannau Addysg Yorkshire Water.
Teulu'r Dŵr
Gwefan hwyliog i helpu’r teulu cyfan i arbed dŵr yn y cartref. Gallwch greu teulu a’u herio i wneud penderfyniadau am y dŵr a ddefnyddiant.
The Water School
Cynllun newydd ar gyfer disgyblion CA2 a CA3 a’u hathrawon. Mae’r wefan newydd hon yn eich helpu i sefydlu a rhedeg prosiect arbed dŵr yn yr ysgol. Gall y plant foderneiddio rhannau o’r hen Ysgol Ddŵr trwy chwarae gêmau difyr ac addysgiadol.
WaterAid
Cewch weld sut y mae WaterAid yn helpu pobl mewn gwledydd sydd heb ddŵr yfed glân a diogel.



