Rydych chi yma: Hafan > Themâu a Digwyddiadau > Dewis Dŵr
Dewis DŵrGweithio er lles iechyd plant ysgolYn ogystal â bod yn lles i’n hiechyd cyffredinol, mae gwaith ymchwil wedi dangos bod yfed digon o ddŵr yn gallu ein helpu i ganolbwyntio a gwneud yn well yn yr ysgol neu’r gwaith. Felly, rydym yn falch o gael cefnogi Menter Ysgolion Iach Llywodraeth Cynulliad Cymru, 'Think Water – Dewis Dŵr'. Yfed dŵr! Dysgu’n siŵr!Nod y cynllun hwn yw cael plant i yfed rhagor o ddŵr yn y dosbarth i’w helpu i ganolbwyntio’n well. Fel rhan o’r cynllun hwn, rydyn ni’n cydweithio â PHS Waterlogic i ddarparu poteli dŵr yfed da ar gyfer chwaraeon am y pris isaf posib. Cliciwch yma i gael gwybod mwy. Yn ogystal, mae pob disgybl sy’n dod i un o’n Canolfannau Addysg yn cael potel dŵr yfed AM DDIM! Hyd yma, rydym wedi cefnogi’r gwaith o osod oeryddion dŵr o’r prif gyflenwad i 384 o ysgolion yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru! Iechyd Da! |