Caru dŵr. Caru’r gymuned.
Rydyn ni wrth ein bodd yn helpu ysgolion, busnesau ac aelodau eraill y gymuned i ddysgu mwy am ddŵr. Dyna pam rydyn ni bob amser yn cefnogi ac yn cynnal nifer o ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o’r rhan bwysig y mae dŵr yn ei chwarae yn ein bywydau.
Yma, cewch wybod mwy am ein hymgyrchoedd diweddaraf a sut y gallwch chi gymryd rhan ynddynt, a gallwch lawrlwytho gwybodaeth a gweithgareddau difyr i’w defnyddio yn y gwaith, yr ysgol neu gartref.
Trwy addysg amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’n busnes, mae Dŵr Cymru’n cefnogi’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Cafodd ei wobrwyo am hyn yn ddiweddar pan enillodd ddwy wobr bwysig yn Seremoni Gwobrau Busnes yn y Gymuned yng Nghaerdydd. Cawsom Wobr Big Tick y Jiwbilî Arian am ymrwymiad hirdymor i addysg. Bwriad y wobr hon yw cydnabod cwmnïau sydd wedi cael effaith gadarnhaol hirdymor dros ddeng mlynedd neu fwy. Yn ogystal, cawsom Wobr Cwmni Rhanbarthol y Flwyddyn 2007 a roddir i gwmnïau sy’n gallu dangos bod ganddynt agwedd integredig at arferion busnes cyfrifol yn y meysydd a ganlyn – y farchnad, y gweithle, yr amgylchedd a’r gymuned. Gwyliwch ein DVD dwy funud sy'n dangos hyn.
Gweithio i hybu iechyd plant ysgol
Yn ogystal â bod yn lles i’n hiechyd cyffredinol, mae gwaith ymchwil wedi dangos bod yfed digon o ddŵr yn gallu ein helpu i ganolbwyntio a gwneud yn well yn yr ysgol neu’r gwaith. Cliciwch yma i ddarllen mwy...



