Dŵr. Mae’r newyddion i gyd yma!

Os oes rhywbeth wedi digwydd, cewch ddarllen amdano yma. Dyma gasgliad o ddatganiadau newyddion a datganiadau i’r wasg gan Dŵr Cymru Welsh Water. Cliciwch ar y cysylltiadau i ddarllen yr erthyglau.

Os na ddowch o hyd i’r un yr oeddech yn chwilio amdani, defnyddiwch yr injan chwilio isod neu cysylltu â ni i gael rhagor o wybodaeth.

  • Click yma i dderbyn ein newyddion diweddaraf.

06/09/2010

Mae ychydig o leoedd olaf ar gyfer taith am ddim o amgylch gwaith trin dwr gwastraff Bae Abertawe o eiddo Dwr Cymru Welsh Water yn dal ar gael - ond ewch amdanynt yn chwim gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig, ac mae’r teithiau’n cael eu cynnal ddydd Sul hwn, y 12fed o Fedi.

02/09/2010

Mae Helga Lewis, athrawes ysgol gynradd o Lanilltud Faerdref, wedi cyfnewid yr ystafell ddosbarth am yr awyr fawr agored unwaith eto, fel mae hi’n dechrau’i secondiad blwyddyn o hyd gyda Dwr Cymru Welsh Water.

01/09/2010

Mae Robert Davies, athro o Ysgol Gynradd Cwmfelin ym Maesteg yn Ne Cymru, wedi cyfnewid yr ystafell ddosbarth am yr awyr fawr agored, fel mae’n dechrau secondiad blwyddyn gyda Dwr Cymru Welsh Water.

31/08/2010

Er bod yr haf yn dirwyn i ben, mae yna o hyd amser i fwynhau’r gweithgareddau yng Nghwm Elan cyn y bydd dail yr hydref yn dechrau cwympo.

31/08/2010

Mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi mewn cynllun fydd yn darparu rhagor o welliannau i’r rhwydwaith dwr gwastraff yng Nghas-gwent.

27/08/2010

Mae’r elusen Cymorth Dwr yn atgoffa pobl yn Sir Benfro ac Ynys Mon bod yna ond ychydig o ddiwrnodau yn weddill iddynt gofrestru i gymryd rhan mewn taith gerdded o amgylch Llwybrau Arfordir Sir Benfro ac Ynys Mon i godi arian.

25/08/2010

Mae Dwr Cymru Welsh Water am ddiddymu’u gwaharddiad dros dro ar bysgota yng nghronfa ddwr Llwyn Onn ger Merthyr Tudful mewn pryd ar gyfer Gwyl y Banc.

19/08/2010

Mae’r hyn sy’n gyfwerth a 26 miliwn o boteli mawr o ddwr yn cael ei adael i lifo’n wastraff i lawr tyllau plygiau, cawodydd a thoiledau Abertawe bob diwrnod, ac mae Dwr Cymru Welsh Water yn cynnig cyfle i bobl weld beth sy’n digwydd iddo yn y gwaith trin dwr lleol.

19/08/2010

Mae Glas Cymru, perchnogion Dwr Cymru Welsh Water, yn atgoffa pobl bod amser yn prysur ddirwyn i ben i ymgeisio ar gyfer Aelodaeth i fod a rhan hanfodol yn y gwaith o lywodraethu’r unig gwmni dwr ‘nid-er-elw’ yng Nghymru a Lloegr. Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau bellach yn llai na thair wythnos i ffwrdd.

19/08/2010

Gydag ond dyddiau’n weddill cyn y bydd gwyliau’r haf yn darfod, pam na ddowch a’r plant gyda chi i safle Llyn Brenig o eiddo Dwr Cymru Welsh Water i fwynhau gweithgareddau llawn hwyl cyn iddynt ddychwelyd i’r ysgol?

13/08/2010

Gyda’r darogan y bydd tywydd cynnes a sych yn dychwelyd y penwythnos hwn ac yn para o leiaf hyd at ddechrau’r wythnos nesaf, mae Dwr Cymru Welsh Water yn atgoffa pobl ifanc yng Nghymru y gall nofio mewn cronfeydd dwr ladd.

11/08/2010

Mae Ceidwaid Cefn Gwlad Dwr Cymru Welsh Water yng Nghwm Elan wedi trefnu detholiad o ddigwyddiadau cyffrous ac addysgiadol fydd yn denu’r teulu cyfan fis Awst hwn. Pa un ai a ydych yn mwynhau teithiau cerdded maith, wedi’ch amgylchynu gan natur, casglu’r pryfed rhyfeddaf neu nad yw’n waeth gennych gael eich hun ychydig yn wlyb, mae yna rywbeth yn cael ei gynnig i bawb.

05/08/2010

Gydag ond ychydig o wythnosau yn weddill cyn y bydd gwyliau’r haf yn gorffen, pam na ddowch a’r plant gyda chi i Stad Cwm Elan o eiddo Dwr Cymru Welsh Water i fwynhau gweithgareddau llawn hwyl cyn iddynt ddychwelyd i’r ysgol? Fe wahoddir ymwelwyr i fanteisio hyd yr eithaf ar y tywydd cynnes ac i ymuno a’r archeolegydd lleol Nigel Jones ar daith gerdded bum milltir o hyd yn ol mewn amser ddydd Sadwrn, y 14eg o Awst.

29/07/2010

Ar ol un o’r dechreuadau sychaf i’r haf a gofnodwyd erioed, mae disgyblion o Flaenau Gwent wedi profi’u bod ar frig y dosbarth pan ddaw hi’n fater o arbedion dwr.

28/07/2010

Mae Dwr Cymru Welsh Water wedi cwblhau gwaith ar gynllun buddsoddi fydd yn darparu buddion amgylcheddol i bentref Trefor Isaf ger Wrecsam.

26/07/2010

Ar ol un o’r dechreuadau sychaf i’r haf a gofnodwyd erioed, mae disgyblion o Ysgol Gynradd Coedygarn ym Mlaenau wedi profi’u bod ar frig y dosbarth pan ddaw hi’n fater o arbed dwr.

26/07/2010

Mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi £125,000 mewn cynllun i fynd i’r afael a llifogydd mewnol i eiddo yn ardal Box Lane o Wrecsam.

26/07/2010

Fe wnaeth disgyblion o Ysgol Gynradd Bodedern ar Ynys Mon gael eu dannedd yn eu gwybodaeth am effeithlonrwydd dwr yn ddiweddar, diolch i wers arbennig oddi wrth Dwr Cymru Welsh Water.

15/07/2010

Mae Dwr Cymru Welsh Water wedi nol y carped coch ar gyfer dangosiad cyntaf ffilm ddiweddaraf Cymru, gyda lansiad eu ffilm newydd ynglyn a diogelwch mewn cronfeydd dwr, ffilm sydd a’r nod o arbed bywydau.

12/07/2010

Mae Glas Cymru, perchnogion Dwr Cymru Welsh Water, yn chwilio am bobl a all gyflawni rhan hanfodol yn nhrefn lywodraethol yr unig gwmni dwr ‘nid-er-elw’ yng Nghymru a Lloegr.

08/07/2010

Mae Dwr Cymru Welsh Water wedi ysgrifennu at oddeutu 50,000 o gwsmeriaid mewn rhannau o Ogledd a Gorllewin Cymru i ofyn am eu cymorth i arbed cyflenwadau dwr yn ystod yr haf sych iawn hwn.

08/07/2010

Mae ceidwaid cefn gwlad yn Stad Cwm Elan o eiddo Dwr Cymru Welsh Water wedi rhoi’r pwyth olaf ar gynlluniau gwyliau’r haf, fel maent yn paratoi i fod yn barod i gynnig ystod o ddigwyddiadau gwyliau’r haf i’r teulu i gyd eu mwynhau – gyda’r fantais ychwanegol bod y rhan fwyaf ohonynt yn rhad ac am ddim, hefyd.

01/07/2010

Mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi £440,000 mewn cynllun fydd yn darparu gwelliannau amgylcheddol i ardal Llanerch-y-Mor o Dreffynnon.


Yfed dŵr. Dysgu’n  siŵr.

Yfed dŵr. Dysgu’n siŵr.

Mae yfed dŵr yn eich helpu i ddysgu. Dyna pam rydyn ni’n rhan o Fenter Ysgolion Iach Llywodraeth Cynulliad Cymru, ‘Think Water – Dewis Dŵr'.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy

Gwobr am Fyw a Dysgu

Gwobr am Fyw a Dysgu

Enillodd Dŵr Cymru wobr Big Tick gan fudiad BITC am ei waith hirdymor yn addysgu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu…

Cliciwch yma i gael gwybod mwy

Cliciwch yma i gael gwybod mwy

Offer dysgu am ddŵr i ddisgyblion

Mae myfyrwyr TGAU a BTEC yng Nghymru yn cael y cyfle i feithrin mwy o ddealltwriaeth o wyddoniaeth…

Cliciwch yma i gael gwybod mwy