Wythnos nefa (dydd Llun, y 10fed o Fawrth), fe fydd cynllun yn cael ei ddechrau gan Dwr Cymru Welsh Water i gynorthwyo i liniaru peryglon gorlifo ym Mhont-y-pwl.
Y mae’r cwmni cyfleustod yn buddsoddi Ł150,000 i gynyddu cynhwysedd y rhwydwaith dwr gwastraff lleol er mwyn lleihau peryglon gorlifo i eiddo yn yr ardal. Fe fydd y rhwydwaith presennol yn cael ei newid ac fe fydd pibellau newydd yn cael eu gosod i gynyddu faint o ddwr gwastraff a gludir.
Fe wneir y gwaith yng nghyffordd Heol Osbourne (yr A4043) a Heol Pentrepiod. Y mae’r cynllun i fod i gael ei gwblhau yn gynnar ym mis Ebrill.
Fe ddywedodd rheolwr buddsoddi rhanbarthol Dwr Cymru Welsh Water, Andrew Bowen: “Fe fydd y gwaith o fudd uniongyrchol i drigolion lleol ac y mae’n adlewyrchu’n hymrwymiad parhaus i ddarparu gwelliannau i gwsmeriaid drwy fuddsoddi yn ein rhwydwaith. Yr ydym wedi cysylltu gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wrth baratoi ar gyfer y cynllun hwn, ac fe ofynnwn i’r gymuned leol fod yn amyneddgar gyda ni tra bod y gwaith gwelliannau hanfodol hwn yn cael ei wneud. Yr ydym yn ymddiheuro o flaen llaw am unrhyw darfu y gall y gwaith ei achosi a diolchwn iddynt am eu hamynedd.”
Fe fydd angen goleuadau traffig dwyffordd dros dro drwy gydol hyd y cynllun i gynorthwyo i reoli’r llif traffig. Y mae hi’n angenrheidiol hefyd cau Heol Pentrepiod dros dro o’r 10fed o Fawrth tan y 4ydd o Ebrill. Fe fydd yr holl ffyrdd dargyfeirio traffig yn cael eu dangos yn eglur ar arwyddion ffyrdd.
Y mae’r gwaith yn cael ei ddarparu gan Morgan Est CCC ar ran Dwr Cymru Welsh Water.
Y mae Dwr Cymru Welsh Water yn buddsoddi’n hael ac yn gweithio’n galed i sicrhau gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’w holl gymunedau yng Nghymru. Y mae’r cwmni’n buddsoddi Ł1.2 biliwn yn ei rwydwaith dwr a charthffosiaeth rhwng 2005 a 2010.
Y mae’n gwmni ‘nid-er-elw’ sydd a’r unig amcan o ddarparu gwasanaethau o’r ansawdd uchaf i’w gwsmeriaid. Nid oes gan Dwr Cymru Welsh Water gyfranddalwyr, ac y mae unrhyw elw a wneir yn cael ei ail-fuddsoddi yn y busnes er budd cwsmeriaid, yn ogystal ag er mwyn ei ddychwelyd i gwsmeriaid fel ‘buddrannau’. Y fuddran i gwsmeriaid am 2007/08 yw Ł20 i bob un cwsmer sy’n derbyn gwasanaethau dwr a dwr gwastraff, fel ei gilydd.
© Dŵr Cymru Cyf 2008. Cwmni cyfyngedig wedi'i gofrestry yng Nghymru rhif 2366777, Swyddfa gofrestredig: Hoel Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY.