Anturio i Fyd Dŵr
Paratowch am antur ddyfrllyd gyffrous!
Mae ysgolion wrth eu bodd â’n CD-ROM rhyngweithiol diweddaraf, Anturio i Fyd Dŵr.
Mae’n arwain disgyblion Cyfnod Allweddol 2 ar antur ddyfrllyd sy’n cynnwys chwe thasg. Y nod? Darganfod atebion i gwestiynau difyr fel ‘sut mae dŵr yn cyrraedd y tap?’, ‘o ble mae dŵr yn dod?’, a ‘sut caiff dŵr ei ddefnyddio’… Gyda chymorth tîm o arbenigwyr dŵr, cewch Anturio i Fyd Dŵr.
Mae’r CD-ROM hwn yn addas i’w ddefnyddio ar fwrdd gwyn rhyngweithiol ac mae ar gael i bob ysgol yn ein hardal weithredol. Mae’r antur gyffrous yn defnyddio graffeg, animeiddio a chlipiau fideo dyfeisgar i gyflwyno gwybodaeth ac addysgu. Dyma ffordd ddifyr o helpu plant i ddysgu am ddaearyddiaeth, gwyddoniaeth a’r amgylchedd.
Ar y CD-ROM hefyd mae taflenni gwaith, posteri lliwgar a thystysgrif i’r rhai sy’n cyflawni eu tasgau’n llwyddiannus!
Er mwyn chwarae samplau o Anturio i Fyd Dŵr, bydd angen atodyn Macromedia Shockwave arnoch. I’W GAEL YMA





