Croeso i Byw a Dysgu gyda Dŵr.
Mae dŵr yn wych! Ond faint wyddoch chi amdano? Wyddoch chi o ble mae’n dod? Neu sut y mae’n cyrraedd y tap? Sut y mae dŵr yn cael ei wneud yn ddiogel i’w yfed? Beth yw’r ffyrdd gorau o arbed dŵr?
Beth bynnag yr hoffech ei wybod am yr adnodd naturiol anhygoel hwn, fe’i gwelwch yn y wefan hwyliog, ryngweithiol hon, gan Dŵr Cymru Welsh Water.
Athrawon, rhieni, disgyblion – cyfle i ddysgu, crwydro, cael hwyl.
Clic, clic, clic ac fe gewch wybod pa mor bwysig yw dŵr yn ein bywyd bob dydd. Ar gyfer athrawon a rhieni, rydyn ni wedi paratoi cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau diddorol sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm cenedlaethol ac a ddatblygwyd gyda chymorth arbenigwyr addysgol, i ysgogi ac addysgu disgyblion chwilfrydig Cyfnod Allweddol 2.
I ddisgyblion, mae gennym lu o gêmau rhyngweithiol cyffrous, lawrlwythiadau am ddim, cysylltiadau â gwefannau eraill sy’n ymwneud â dŵr, a mwy. Y nod yw mynd â chi ar daith ddarganfod ddifyr a bythgofiadwy. Felly, dyma’ch cyfle.



