Preifatrwydd
Cyflwyniad
Yn yr hysbysiad cyfreithiol hwn, gelwir Dŵr Cymru Cyfyngedig/Dŵr Cymru Welsh Water a Glas Cymru Cyfyngedig ar y cyd yn ‘y Cwmni'.
Mae’r hysbysiad cyfreithiol hwn yn berthnasol i holl gynnwys y Wefan hon. Trwy fynd i unrhyw ran o’r Wefan hon, ystyrir eich bod wedi derbyn yr hysbysiad cyfreithiol hwn yn llawn. Cawn newid neu addasu’r hysbysiad cyfreithiol hwn unrhyw bryd a bydd yr addasiad hwnnw yn dod i rym ar unwaith pan gyhoeddir yr hysbysiad cyfreithiol addasedig ar y Wefan hon.
Ymwrthodiad
Er bod y Cwmni’n ceisio sicrhau bod y wybodaeth ar y Wefan hon yn gywir, nid yw’r Cwmni’n gwarantu bod y defnydd ar y Wefan hon yn gywir nac yn gyflawn. Caiff y Cwmni wneud newidiadau i’r defnydd ar y Wefan hon unrhyw bryd heb rybudd. Mae’n bosib nad yw’r defnydd ar y Wefan hon yn gyfredol bellach ac nid yw’r Cwmni’n ymrwymo i’w ddiweddaru.
Cysylltiadau â Gwefannau eraill
Mae rhai cysylltiadau ar y Wefan hon yn arwain at wefannau eraill sy’n cael eu cynnal gan eraill ac nid oes gan y Cwmni reolaeth drostynt hwy. Nid yw’r Cwmni’n honni dim ynghylch cywirdeb nac unrhyw agwedd arall ar y wybodaeth a geir mewn gwefannau eraill.
Hawlfraint
Oni nodir yn wahanol, y Cwmni neu ei drwyddedwyr biau’r hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill yn yr holl ddefnydd ar y Wefan hon (yn cynnwys, heb gyfyngiad, ffotograffau a delweddau graffeg). Yr unig ffordd y cewch ei atgynhyrchu yw ei lawrlwytho i ddisg caled lleol ar gyfer eich defnydd personol. Ni chaniateir atgynhyrchu cynnwys y Wefan hon na’i gadw mewn unrhyw wefan arall na’i gynnwys mewn unrhyw wasanaeth na system adfer electronig cyhoeddus na phreifat nac mewn unrhyw gyhoeddiad nac unrhyw waith arall heb gael caniatâd ysgrifenedig y Cwmni ymlaen llaw. Cedwir unrhyw hawliau na chânt eu rhoi yn benodol yn y telerau hyn.
Mae enw a logo’r Cwmni yn nodau masnach y Cwmni. Ni chewch ddefnyddio’r nodau masnach hyn heb gael caniatâd ysgrifenedig penodol y Cwmni.
Diogelu Data
Cofrestrwyd y Cwmni o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Byddwn yn cydymffurfio â darpariaethau’r Ddeddf Diogelu Data mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth bersonol a roddir gan ddefnyddwyr y Wefan hon. Fodd bynnag, oni nodir yn wahanol, nid yw gwybodaeth a drosglwyddir i’r Cwmni trwy’r Wefan hon yn cael ei hamgryptio a gallai trydydd partïon ei chipio neu gallai gael ei danfon trwy ddull electronig i bartïon ac eithrio’r sawl y cafodd ei chyfeirio atynt. Anfonir unrhyw wybodaeth felly ar eich risg eich hunan ac felly dylech ystyried yn ofalus pa mor sensitif ydyw cyn ei hanfon.
Awdurdodaeth
Caiff yr hysbysiad cyfreithiol hwn ei lywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr a’i ddehongli yn unol â hwy. Os bydd anghydfod yn codi mewn perthynas â’r hysbysiad cyfreithiol hwn, bydd yn dod o dan awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
