Rydych chi yma: Hafan > Partneriaid Addysg
Mae’n siwr y cewch chi’n plesio gydag ymweliad ag un o’n Partneriaid Addysg!
Partneriaid AddysgCydweithio i ddysgu mwy.Rydyn ni wrthi’n gweithio gyda phedwar sefydliad allweddol – Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Canolfan Gwlyptir Genedlaethol Cymru y WWT, Techniquest a’r Hereford Waterworks Museum. Nod syml sydd gennym: datblygu profiadau newydd amrywiol sy’n helpu hyd yn oed fwy o ddisgyblion i ddysgu am fyd difyr dŵr. Mae DCWW wedi penodi Swyddog Addysg Teithiol i gydweithio â’n partneriaid addysg i gynnig gweithgareddau gwyddonol ymarferol a rhyngweithiol ar thema dŵr ar gyfer grwpiau ysgol. Dyma ein Partneriaid AddysgHereford Waterworks Museum – cewch brofiad arbennig wrth gamu nôl mewn amser yn yr amgueddfa hon sydd newydd ei ehangu a’i hadnewyddu. Bydd y plant yn dysgu am hanes y diwydiant dŵr trwy gyfleusterau addysgol arloesol ac injans gweithiol, fel injan drawst, yr injan stêm tri-ehangiad fwyaf ym Mhrydain, a thyrbinau trydan aml-wedd modern. Mae Swyddog Addysg Teithiol Dŵr Cymru’n cynnal gweithgareddau addysgol yn yr amgueddfa ac mae’n cynnig rhaglen newydd o’r enw Dŵr a’r Gwaith Dŵr ar gyfer grwpiau sy’n ymweld o ysgolion. Mae’r rhaglen yn para am ddiwrnod cyfan ac mae’n cynnwys gweithgareddau ymarferol fel gwneud hidlen ddŵr, archwilio pwll, llwybr effeithlonrwydd dŵr yn yr awyr agored a chyfle i weld yr amgueddfa. Os hoffech ragor o wybodaeth am y rhaglen addysg, e-bostiwch Mary Watkins yn mary.watkins@dwrcymru.com. Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru –mae Canolfan Ddarganfod Dŵr Cymru Welsh Water yn yr Ardd yn cynnal nifer o raglenni sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm. Mae pob un ohonynt yn helpu plant 3-19 oed i ddeall y berthynas rhwng dŵr a phlanhigion. Yn ogystal, mae’r Ardd yn cynnig rhaglen lawn o gyrsiau athrawon. Mae Swyddog Addysg Teithiol newydd Dŵr Cymru wedi paratoi gwers newydd sy’n rhoi esboniad ymarferol a rhyngweithiol o bwysigrwydd arbed dŵr gartref ac yn yr ysgol. Mae’r rhaglen yn arbennig o ddefnyddiol i ysgolion sy’n dymuno cynnal elfen ddŵr y rhaglen Eco-sgolion. Os hoffech ragor o wybodaeth am weithgareddau addysgol DCWW yn yr Ardd, e-bostiwch mary.watkins@dwrcymru.com. Canolfan Genedlaethol y Glwyptir – ar ymweliad â Chanolfan Genedlaethol y Gwlyptir sy’n eiddo i’r WWT, mae plant yn cael gweld y gwahanol ffyrdd yr ydym ni’n defnyddio dŵr yn ein bywyd bob dydd. Mae’r Ganolfan Ddarganfod dan do, a ddatblygwyd ar y cyd â’r NWCW, yn llawn gweithgareddau hwyliog, eitemau i’w dangos a modelau. Mae rhaglenni pwrpasol ar gael ar gyfer plant o oed meithrin i’r chweched dosbarth, yn cynnwys rhai sydd ag anghenion arbennig. Mae ein Swyddog Addysg Teithiol yn cynnal wythnosau gweithgareddau yn y Ganolfan o bryd i’w gilydd trwy’r flwyddyn. Y rhaglen ddiweddaraf i gael ei datblygu yw ‘Dyfroedd y Gwlyptiroedd’ sy’n dangos yn fanwl sut y cafodd Gwlyptiroedd y Mileniwm eu creu mewn partneriaeth â Dŵr Cymru. Mae’r disgyblion yn dysgu sut y caiff dŵr brwnt ei lanhau ac mae cyfle i wneud hidlen ddŵr. Maen nhw’n cael treulio amser yn y guddfan Adain Crychydd yn chwilio am adar gan ddefnyddio sbïenglas a thaflenni adnabod. Mae llwybr arbed dŵr o gwmpas tŷ a godwyd yn arbennig yn dangos mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol pa mor bwysig yw arbed dŵr. Os hoffech ragor o fanylion am gyfleusterau addysgol Dŵr Cymru yng Nghanolfan Genedlaethol y Gwlyptir, cysylltwch â Mary Watkins, mary.watkins@dwrcymru.com. Techniquest – mae arddangosiad rhyngweithiol newydd ar arbed dŵr yn Techniquest! Yno hefyd mae 160 o eitemau i’w trin a’u trafod, theatr wyddoniaeth, arsyllfa, labordy ac ystafell arddangos. Mae Techniquest yn cynnal 60 o weithdai a chyflwyniadau gwahanol i ysgolion yn ystod y tymor, ar gyfer plant o oed ifanc i 16+. Mae Swyddog Addysg Teithiol Dŵr Cymru’n cydweithio â staff Techniquest ar rai dyddiau trwy’r flwyddyn. Yn ystod y flwyddyn ysgol hon, bydd y swyddog addysg yn cydweithio â staff Techniquest yn ystod Wythnos Ddŵr y Byd ym mis Mawrth i gynnal gwersi ymarferol i ddangos i ddisgyblion pa mor bwysig yw dŵr a sut i’w ddefnyddio’n ddoeth. Cewch ragor o fanylion gan Mary Watkins yn mary.watkins@dwrcymru.com. |