Rydych chi yma: Hafan > Canolfannau Addysg
Byw a Dysgu gyda DŵrMae cymaint i’w weld ac i’w wneud yn ein Canolfannau Addysg
Profiadau ardderchog ar gyfer dysgwyr hen ac ifanc!Dewch i un o’n pedair Canolfan Addysg am ddiwrnod delfrydol – AM DDIM! Mae pob canolfan yn cynnal nifer o weithgareddau a rhaglenni ymarferol, hwyliog fel y gall y plant gael profiad drostynt eu hunain o fyd rhyfeddol dŵr. Athrawon arbenigol ar secondiad sy’n cymryd y gwersi, mewn ystafelloedd dosbarth modern, ac maent i gyd yn gysylltiedig â’r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 yn cynnwys y blynyddoedd pontio, Bl2 a Bl7. Yn ogystal, rydyn ni’n datblygu gwersi newydd bob blwyddyn – felly mae rhywbeth gwahanol i’w ddysgu bob amser. Ar ben hynny, mae pob disgybl sy’n dod i un o’n canolfannau yn cael potel dŵr yfed AM DDIM fel rhan o’n hymgyrch Think Water - Dewis Dŵr. Mae dwy o’n canolfannau addysg wedi ennill Statws Eco-Ganolfan.
Mae Aseswyr Eco-Ysgolion cymwysedig o Cadw Cymru'n Daclus wedi asesu Canolfannau Addysg Amgylcheddol Dŵr Cymru yng Nghilfynydd ger Pontypridd a Rhostir Cog ger Caerffili a barnu eu bod yn haeddu Statws Eco-Ganolfan ac mae’r ddwy wedi ennill Baner Werdd. Mae gofyn i’r Canolfannau sicrhau bod ganddynt holl elfennau hanfodol y rhaglen Eco-Ganolfannau a hybu ymwybyddiaeth o’r amgylchedd i’r ymwelwyr, gan eu hannog i gymryd camau i helpu i leihau ein hôl-troed amgylcheddol. Wythnosau thema i danio’r dychymygRydym yn cynnal wythnosau thema yn ein Canolfannau Addysg. Mae Wythnos Genedlaethol Coed ym mis Tachwedd, Wythnos Genedlaethol Blychau Adar ym mis Chwefror a llawer o ddigwyddiadau eraill trwy’r flwyddyn. Cliciwch yma i gael gwybod mwy ...
Pedair canolfan. Pedwar profiad rhyfeddol.
Alwen. Gogledd Cymru.Mae sawl rheswm da iawn dros ddod i Ganolfan Addysg Alwen, ond y ddau reswm mwyaf amlwg yw argae Alwen sy’n 27 metr o uchder a’r gronfa ddwr sy’n 5km o hyd! Bydd y plant yn cael gweld y ddau beth ac yn cael dysgu sut y cawsant eu hadeiladu yn arddangosfa hanesyddol unigryw y ganolfan. I drefnu i ddod â’ch ysgol yma, ffoniwch ein cydgysylltydd addysg ar: 01490 420 208.
Cilfynydd. Cymoedd De Cymru.Yma, mae ‘na ystafelloedd dosbarth modern y tu mewn a’r tu allan a llu o bethau difyr i’w gwneud (yn cynnwys archwilio pwll, saffaris bwystfilod bach, astudio afon Taf, a chael gweld o gwmpas y Gwaith Trin Dŵr Gwastraff). Does dim rhyfedd bod cynifer o ymwelwyr yn dod i’r ganolfan ardderchog hon. I drefnu i ddod â’ch ysgol yma, ffoniwch ein cydgysylltydd addysg ar: 01443 492 720.
Rhostir Cog ger Caerdydd.Ystafell ddosbarth fodern, nifer o weithgareddau cyffrous (fel cyfeiriannu, teithiau o gwmpas y gwaith trin, llwybrau natur ac archwilio pwll), safle hardd mewn ardal gadwraeth, ac athro profiadol Cyfnod Allweddol 2 i arwain y gweithgareddau. Ydi, mae’n werth dod draw i Ganolfan Addysg Rhostir Cog. I drefnu i ddod â’ch ysgol yma, ffoniwch ein cydgysylltydd addysg ar: 02920 515 621.
Cwm Elan. Canolbarth Cymru.Mae Cwm Elan yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol am amrywiaeth ei greaduriaid a’i blanhigion ac mae’n lle ardderchog i ddod â phlant sy’n hoffi bywyd gwyllt. Yn y Ganolfan Addysg, mae plant yn cael cyfle i fwynhau pyllau bywyd gwyllt, llwybrau natur, taith o gwmpas yr argaeau, arbrofion yn yr ystafell ddosbarth a llawer mwy. I drefnu i ddod â’ch ysgol yma, ffoniwch ein cydgysylltydd addysg ar: 01597 810 390. |